Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gyfranogiad yn y Celfyddydau yng Nghymru

Ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau

Ymateb gan Cwmni Theatr Arad Goch

 

 

1. Pa sefydliad/corff ydych chi’n ei gynrychioli?

CWMNI THEATR ARAD GOCH

 

2. Pa grwpiau o bobl sy’n cyfranogi yng ngweithgareddau celfyddydol eich sefydliad?

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn gwmni theatr proffesiynol sydd yn cynhyrchu theatr a gweithgareddau celfyddydol eraill i blant a phobl ifanc yn bennaf

 

3. A ydych yn credu bod newidiadau mewn cyllidebau wedi effeithio ar gyfranogiad yn y celfyddydau, yn gadarnhaol neu’n negyddol

Ydw, Mae llai o theatr i gynulleidfaeodd ifanc yn cael ei chynhyrchu - felly mae llai gyfleoeodd i bobl ifanc a phlant

 

4. A ydych yn credu bod hyn wedi effeithio mwy ar rai grwpiau o bobl nag eraill?

Cynulleidfaeodd ifanc mewn rhai rhannau o Gymru

 

5. A oes bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer cyfranogiad yn y celfyddydau, o ran demograffeg neu ddaearyddiaeth

Pobl ifanc mewn rhai rhannau o Gymru

 

6. A oes digon o ffynonellau ariannu ar gael ar wahân i Gyngor Celfyddydau Cymru? A yw ffynonellau ariannu eraill yn hygyrch?

Nac oes. Nac ydyn, Ddim yn hawdd

 

7. Pa rôl y mae’r sector celfyddydau gwirfoddol yn ei chwarae mewn perthynas â hyrwyddo cyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru a sut y gellir cefnogi hyn?

Ycyhydig iawn.

 

8. A yw’r berthynas strategol rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyrff sy’n dosbarthu’r arian i’r celfyddydau yn effeithiol o ran cynyddu cyfranogiad?

Nac ydy.

 

9. Bydd pob corff cyhoeddus yng Nghymru wedi cyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol erbyn mis Ebrill 2012. A ydych yn credu y bydd y dyletswyddau cydraddoldeb newydd hyn yn y sector cyhoeddus yn helpu i gynyddu cyfranogiad yn y celfyddydau ymysg grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru?

Mae ysgrifennu strategaeth a'i gweithredu yn effeithlon yn ddau beth gwahanol. Nac ydw.